Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol gydag adroddiadau clir

6 Gorffennaf 2015

 

 

CLA554 - Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rholiadau hyn, a gyflwynir yn unol ag adran 1 o Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010, yn rhoi dyletswydd ar Gynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Cynghorau Cymunedol, Cynghorau Tref ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel "Awdurdodau Lleol") i asesu effaith gwarediad arfaethedig tir sy’n gae chwarae neu’n ffurfio rhan o gae chwarae.  At hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ymgynghori'n eang cyn penderfynu ynghylch gwarediad o'r fath.

 

 

CLA555 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/2016. At hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.

 

 

 

 

 

 

CLA556 - Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)) ac yn dirymu Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy. 148)) (“Rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd”). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth arall hefyd. Mae'r newidiadau'n trosi diwygiadau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) a wnaed gan Reoliad y Comisiwn EU 1357/2014 a Phenderfyniad y Comisiwn 2014/955/EU, sy'n weithredol o 1 Mehefin 2015 ymlaen.  Mae'r ddau offeryn hyn yn diwygio'r rhestr o briodweddau gwastraff peryglus yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC (y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig) ac yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd Ewropeaidd (Penderfyniad 2000/532/EC).

Mae'r offeryn hwn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau yn ein deddfwriaeth yn dilyn y newidiadau a wnaed drwy ail-lunio Cyfarwyddeb 2002/96/EC ar Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (“y Gyfarwyddeb CTEG”) a'r newidiadau mewn terminoleg yn ymwneud â sylweddau peryglus, a wnaed gan Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 ar ddosbarthu, labelu a phecynnu sylweddau a chymysgeddau.